Adnoddau Ar-lein am Ddim
Dod o hyd i lyfr
Oes gennych chi gwestiwn anodd?
Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi.
Chwilio am erthygl papur newydd?
Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dechreuwch Fenthyca Llyfrau nawr!
- Gallwch gael benthyg neu ofyn am gael cadw hyd at 4 e-lyfr ar y tro
- Mae e-lyfrau yn cael eu rhoi am dair wythnos, oni bai eich bod yn dewis cyfnod benthyg llai. Ar ôl i?r cyfnod benthyg ddod i ben, bydd y llyfr yn cael ei ddileu yn awtomatig.
- Mae'r e-lyfrau ar gael i'w lawrlwytho 24/7
- Bydd e-lyfrau yn cael eu lawrlwytho i'ch cyfrifiadur, gliniadur neu MAC gan ddefnyddio rheolwr lawrlwytho Adobe Digital Editions. Yna gallwch drosglwyddo'r llyfr i'ch e-ddarllenydd, tabled neu ffôn clyfar. Neu, gallwch lawrlwytho e-lyfrau yn uniongyrchol i ffonau clyfar a thabledi unwaith y bydd gennych ap i ddarllen e-lyfrau.
- Hyd yma, nid yw'r gwasanaeth lawrlwytho ar gael ar gyfer darllenwyr e-lyfrau Kindle
Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn mae'n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy'n rhan o'r cynllun.
Os ydych eisoes yn aelod o'r llyfrgell, gallwch fenthyca e-lyfrau gan ddefnyddio rhif cerdyn aelodaeth eich llyfrgell a PIN (ar gael gan eich llyfrgell leol). Os nad ydych yn gwybod eich côd bar a rhif PIN, cysylltwch â'ch llyfrgell leol.
Ewch i wefan eLyfrau i Gymru am ragor o wybodaeth.
Ddim yn aelod o lyfrgell? Yna dilynwch y dolenni isod i ymuno â'ch llyfrgell leol ar lein:-

Mae eLyfrau i Gymru wedi'i ariannu ar y cyd gan CyMAL (Amgueddfeydd, Llyfrgelloedd ac Archifau Cymru) ac 17 awdurdod lleol.

English
| Cysylltwch â ni |
Mewngofnodi Staff
