Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Ynys Môn

Llyfrgelloedd Ynys Môn

Ewch i wefan Llyfrgelloedd Ynys Môn am wybodaeth ar y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth sydd ar gael.

Mae 10 o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Ynys Môn. Am rhagor o wybodaeth am eich llyfrgell, ewch i dudalen eich cangen lleol:

Maent yn cynnig llyfrgell deithiol sydd yn ymweld â chymunedau sydd dros dri chwarter milltir o un o lyfrgelloedd Môn. Hefyd, mae?r gwasanaeth caeth i?w tai ar gael i unrhyw un ar Ynys Môn sy' n cael anhawster defnyddio'u llyfrgell leol neu'r llyfrgell deithiol.

Mae Llyfrgelloedd Ynys Môn yn bartneriaid yn y cynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd Linc y Gogledd. Ewch i'r dudalen Linc y Gogledd am ragor o wybodaeth.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn tanysgrifio i ystod eang o adnoddau electronig. Mewn partneriaeth gyda Chyngor Ynys Môn , mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig y cyfle i gofrestru ar gyfer mynediad i?w adnoddau electronig drwy lenwi'r ffurflen ar ei gwefan.