Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl
Ymunwch â LINC

Os hoffech ymuno â LINC, cwblhewch y ffurflen gais yma.

Unwaith i chi lenwi'r ffurflen, ewch â hi i'ch llyfrgell gyhoeddus i'w dilysu.

Gall aelodau o Lyfrgell Gyhoeddus LINC ymuno â llyfrgell Coleg neu Brifysgol trwy lawrlwytho'r ffurflen ymuno LINC a gofyn i staff yn eich llyfrgell gyhoeddus leol ei dilysu. Ewch â'r ffurflen wedi'i dilysu a'ch cerdyn llyfrgell presennol i'r llyfrgell Coleg neu Brifysgol yr ydych yn dymuno ymuno â hi.

Mae gan rai o bartneriaid LINC ofynion ymuno pellach, megis lluniau pasport neu ffurflen fer ychwanegol i'w llenwi. Cofiwch wirio'r wybodaeth ymuno ar gyfer y llyfrgell LINC unigol neu ffonio cyn mynd yno.