Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl
Sut i ddefnyddio LINC

Dod o Hyd i Lyfrau

Gallwch chwilio trwy gatalogau llyfrau LINC er mwyn dod o hyd i'r llyfrau sydd arnoch eu heisiau. Gallwch chwilio o dan y teitl, yr awdur, ac allweddair. Mae'n werth cofio y bydd dyfynnodau yn lleihau eich chwiliad.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i'r llyfrau sydd arnoch eu heisiau, gallwch alw neu fynd i'ch llyfrgell gyhoeddus leol a gofyn iddynt gael eu hanfon yno.

Os yw'r llyfr mewn llyfrgell Prifysgol neu Goleg, gallwch ymuno a benthyg mewn person. Os ydych yn fyfyriwr/wraig Coleg neu Brifysgol, ymunwch â'ch llyfrgell leol a gellir anfon eich gwerslyfrau yno, gan roi mwy o amser i chi weithio a chwarae!

Mae'n rhaid i chi fod yn aelod o lyfrgell er mwyn elwa'n llawn o'r cynllun LINC

Mae yna dair ffordd y gallwch ymuno â llyfrgell gyhoeddus LINC:

   Ewch ag eitemau sy'n cadarnhau eich enw a'ch cyfeiriad presennol i'ch llyfrgell gyhoeddus agosaf a holwch ynghylch ymuno

   Lawrlwythwch ffurflen ymuno oddi ar wefan eich awdurdod lleol

   Cwblhewch a chyflwynwch ffurflen gofrestru ar-lein er mwyn ymuno â llyfrgell gyhoeddus yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wynedd

Ymuno â Llyfrgelloedd Coleg neu Brifysgol:

Gall aelodau o Lyfrgell Gyhoeddus LINC ymuno â llyfrgell Coleg neu Brifysgol trwy lawrlwytho'r ffurflen ymuno â LINC a gofyn i staff yn eich llyfrgell gyhoeddus leol ei dilysu. Ewch â'r ffurflen wedi'i dilysu a'ch cerdyn llyfrgell presennol i'r llyfrgell yr ydych yn dymuno ymuno â hi.

Mae gan rai o bartneriaid LINC ofynion ymuno pellach, megis lluniau pasport neu ffurflen fer ychwanegol i'w llenwi. Cofiwch wirio'r wybodaeth ymuno ar gyfer y llyfrgell LINC unigol neu ffonio cyn mynd yno.