Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Ynys Môn

Gwybodaeth am Fenthyciadau

Cyfnod benthyg:

  Llyfrau a Chrynoddisgiau - 3 wythnos
  Fideos a DVDs - 1 wythnos

Adnewyddiadau:
Oes, os nad yw'r eitem yn cael ei adalw neu ei adnewyddu dro ar ôl tro

Tudalennau gwe:
http://www.anglesey.gov.uk/doc.asp?catid=1213&Language=2

Catalog:
http://prism.talis.com/ynysmon/

Gwybodaeth am ymuno:
Un ffurf o brawf adnabod derbyniol gyda chyfeiriad (e.e. biliau am wasanaethau llai na 3 mis oed) neu gerdyn aelodaeth cyfredol o unrhyw Lyfrgell LINC neu Lyfrgell yn y DU. Mae angen gwarantydd sydd yn aelod o?r Llyfrgell ar rai o dan 18.

>> Mwy o wybodaeth am lyfrgell cyhoeddus Sir Fôn

Gwasanaethau a Darpariaethau

Rydyn ni'n cynnig:

   Mynediad i ddeunydd ar-lein o gartref
   Deunydd clyweledol
   Llyfrau Adrannau plant a phobl ifanc
   Sesiynau crefftau a dweud straeon yn ystod gwyliau'r ysgol
   Gwasanaeth danfon i'r cartref ar gyfer yr henoed neu bobl fethedig
   Llyfrau print bras a sain Llyfrgelloedd Symudol ar gyfer cymunedau anghysbell
   Papurau newydd

Cyfleusterau:

   Cyfleusterau ffacsio, sganio, llungopïo ac ystafelloedd cyfarfod ar gael mewn Llyfrgelloedd mwy (codir tal)
   Argraffwyr (codir tal)
   Lle i astudio

Cyfrifiaduron:
Mynediad am ddim i gyfrifiaduron a'r rhyngrwyd Archebion yn ôl y galw

Rhaglenni Cyfrifiadurol:
Microsoft Office, Word, Excel, Access, PowerPoint, Publisher, Acrobat   Reader

Anoddau Electronig:

   Ancestry (ar gyfrifiaduron y llyfrgell)
   Geiriadur Cymraeg Ar-lein CysGair
   Cysill (ar gyfer gwirio sillafu Cymraeg)
   Encyclopaedia Britannica Online
   KnowUK
   NewsUK
   Oxford English Dictionary Online
   Oxford Reference Online

Mynediad Arbenigol:
Rhaglenni mynediad i ddefnyddwyr anabl ar gael ar rai cyfrifiaduron Supernova (ar gyfer darlleniadau sgrin a chwyddo)

Gwybodaeth Bellach

Deunydd Cyfyngedig:

  Eitemau mewn stoc o dan 12 mis nad ydynt ar gael i'w benthyg y tu allan i Ynys Môn
  Rhywfaint o Ddeunydd Hanes Lleol
  Cyfeiriadau

Casgliadau Cyfeiriadol:
Mae gan bob Llyfrgell yn Ynys Môn gasgliadau cyfeiriadol; Llangefni a Chaergybi sydd â'r casgliadau mwyaf

Taliadau:
Gweler Llyfrgelloedd Ynys Môn

Ar werth:
Nwyddau cyfrifiadurol ('co' bach', CD-R)

Cymorth sydd ar gael:
Cymorth gyda chatalog y llyfrgell, defnyddio'r rhyngrwyd a chymwysiadau cyfrifiadurol eraill, dod o hyd i ddeunydd ar y silffoedd, a chwiliadau gwybodaeth manwl. Teithiau llyfrgell ar gael ar gais

Ymholiadau:
Ebost: dpxlh@ynysmon.gov.uk
Ffôn: 01248 752095