Ffeindio'ch Llyfrgell
- Blaenau gwent
- Pen-y-Bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell Nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
- Llyfrgelloedd Addysg Bellach
- Llyfrgelloedd Addysg Uwch
- Llyfrgelloedd Iechyd
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Llyfrgelloedd Eraill
- Cynlluniau Rhwng Benthyca Lleol
Dod o hyd i lyfr
Oes gennych chi gwestiwn anodd?
Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi.
Chwilio am erthygl papur newydd?
Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Beth fydd LINC y Gogledd yn ei wneud i mi?

Bydd LINC yn darparu ymborth i'ch ymennydd! Bydd LINC yn ychwanegu ysbrydoliaeth a chyfaredd i'ch byd, gan ennyn a boddhau eich chwilfrydedd. Gallwch ymuno â llyfrgelloedd Coleg, Prifysgol a lleol LINC ac archwilio'r ystod amrywiol o bynciau mewn person, neu gael eitemau wedi eu danfon i'r llyfrgell o'ch dewis chi. Os ydych yn astudio neu'n addysgu ar unrhyw lefel, gellir danfon gwerslyfrau i unrhyw lyfrgell LINC, a fydd yn arbed amser i chi. Gall plant ymarfer eu dychymyg a'u creadigrwydd mewn sesiynau dweud straeon a chrefftau. Boed yn ddiddordeb neu'n frwdfrydedd, yn ysfa neu'n ymchwil, mae llyfrgelloedd LINC yn agored i chi ar gyfer hamdden, dysg, a bywyd!
Sut mae LINC yn gwneud hyn i gyd?
Gallwch ymarfer eich ymennydd gyda phynciau Coleg a Phrifysgol diddiwed, gan gynnwys niwrowyddoniaeth, diwinyddiaeth, coedwigaeth, athroniaeth, a llawer iawn mwy. Mae'r ystod estynedig o ddefnyddiau llyfrgell cyhoeddus yn eich galluogi i durio i hanes eich teulu, trwytho eich hun rhwng cloriau cyfrolau cyfareddol, neu ymchwilio i hobi newydd. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich deunydd, mae partneriaid LINC hefyd wedi sefydlu rhwydwaith cyflenwi trwy Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, a Wrecsam.
Ble mae'r llyfrgelloedd a pha bryd y maent ar agor?
Sut mae ymuno â llyfrgell LINC?
A oes rhaid i mi dros unrhyw oed arbennig i ddefnyddio LINC?
Nag oes, er bod gan rai partneriaid LINC ofynion penodol, felly gwiriwch o dan
llyfrgelloedd LINC.
Sut mae dod o hyd i lyfrau a'u benthyg trwy LINC?
Faint mae'n ei gostio?
Mae llyfrau sydd ar gael o LINC a llyfrgelloedd ledled Cymru yn ddi-dâl. Codir tâl am
eitemau nad ydynt ar gael i'w benthyg yng Nghymru.
A allaf gael mynediad i'r we ac adnoddau electronig?
A yw llyfrgelloedd LINC yn cynnig gwasanaethau eraill?
Sut mae cael mwy o wybodaeth?
Am oriau agor, lleoliadau, cyfleusterau neu unrhyw gwestiwn arall a allai fod gennych
ynghylch unrhyw lyfrgell LINC, cliciwch ar y ddolen berthnasol neu cysylltwch â ni.

English
| Cysylltwch â ni |
Mewngofnodi Staff