Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Cynlluniau Rhwng Benthyca Lleol

Mae'r adran hon o'r wefan yw rhoi gwybodaeth i chi ynghylch y cynlluniau rhwng benthyca llyfrgelloedd sydd ar gael yng Nghymru.

Linc y Gogledd


Mae cynllun LINC y Gogledd yn galluogi aelodau llyfrgell, myfyrwyr a staff o unrhyw lyfrgell gyhoeddus, addysgol neu iechyd yng Ngogledd Cymru i fenthyg llyfrau am ddim o unrhyw lyfrgell gyhoeddus, coleg, prifysgol a llyfrgelloedd y GIG ar draws Gogledd Cymru. Ar ben hynny, mae partneriaid LINC wedi sefydlu rhwydwaith cyflenwi rhanbarthol cynaliadwy a fydd yn darparu'r eitemau y gofynnir amdanynt i lyfrgell o ddewis y darllenydd yn gyflym ac am ddim. Gall aelodau llyfrgelloedd cyhoeddus hefyd ymuno gyda llyfrgelloedd colegau a phrifysgolion am ddim.

Ewch i'r dudalen Linc y Gogledd am ragor o wybodaeth.

Books4U

Dechreuodd y system rhwng benthyca rhanbarthol hon  yn 2006 fel rhan o'r Prosiect Pyrth i Addysg. Pan ddaeth y prosiect i ben, cytunodd partneriaid Pyrth i barhau gyda'r gwasanaeth. Ymunodd 5 fwy o awdurdodau lleol yn 2009 ac ailenwyd y gwasanaeth yn Books4U.

Am ragor o wybodaeth am Books4U, darllenwch y ddogfen yma (Saesneg yn unig).