Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Conwy

Llyfrgelloedd Conwy

Ewch i wefan Llyfrgelloedd Conwy am wybodaeth ar y gwasanaethau llyfrgell a gwybodaeth sydd ar gael.

Mae 12 llyfrgell gyhoeddus ar draws Conwy. Am rhagor o wybodaeth am eich llyfrgell, ewch i dudalen eich cangen lleol:

Yn dod a llyfrau a gwybodaeth atoch chi! Os ydych chi?n byw mwy na 3 milltir o lyfrgell, yna, mae?n debygol bod Llyfrgell Deithiol yn aros rhywle?n agos at eich cartref.

Yn dod â?r llyfrgell i?ch cartref... Os ydych yn hoffi darllen ond nad ydych yn gallu mynd i?ch llyfrgell oherwydd oed, salwch neu wendid, efallai eich bod yn gymwys am Wasanaeth Llyfrgell i?r Cartref a ddarperir gan Conwy.

Mae Llyfrgelloedd Conwy yn bartneriaid yn y cynllun benthyca rhwng llyfrgelloedd Linc y Gogledd. Ewch i'r dudalen Linc y Gogledd am ragor o wybodaeth.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn tanysgrifio i ystod eang o adnoddau electronig. Mewn partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig y cyfle i gofrestru ar gyfer mynediad i?w adnoddau electronig drwy lenwi'r ffurflen ar ei gwefan.