Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Ffeindio Llyfr - Cwestiynau Cyffredin

Byddwn yn diweddaru?r rhestr hwn o Gwestiynau Cyffredin yn aml wrth i ni barhau i ddatblygu gwasanaeth Ffeindio Llyfr. Tarwch olwg ar y rhestr isod cyn cysylltu â ni.

Pam na fedra'i gael mwy na x canlyniad?

  • Mae gan rai catalogau gyfyngiadau ar y nifer o ganlyniadau a ddychwelir (500 neu 1000 yn aml). Ceisiwch chwilio am dermau mwy penodol os ydych yn gweld eich bod yn cyrraedd y terfynau hyn.

Pam fod Ffeindio Llyfr yn araf heddiw?

  • Mae?n debyg y byddwch chi?n blino hefyd petaech chi?n gorfod ymweld â phob llyfrgell yng Nghymru! Ond, o ddifri?, bydd y system yn cymryd tipyn o amser i gasglu a phrosesu?r holl wybodaeth os ydych yn dewis chwilio pob catalog. Rydym yn gweithio?n galed i gwtogi?r amser ymateb ond does dim llawer y medrwn ni ei wneud os yw?r catalog lleol yn araf. Beth am geisio chwilio ychydig o gatalogau yn unig, neu?r catalogau sydd fwyaf lleol i chi?

Rwy?n meddwl fy mod wedi ei dorri!

  • Peidiwch â phoeni - cofiwch mai gwasanaeth beta yw hon. Gadewch i ni wybod beth ddigwyddodd trwy?r dudalen gyswllt.

Sut mae hwn yn gweithio?

  • WebFeat® sy?n rhedeg Ffeindio Llyfr ac mae?n gweithio trwy chwilio am eich term ym mhob un o?r catalogau rydych chi?n eu dewis. Unwaith iddo ddod o hyd i?r canlyniadau, mae?n eu trefnu yn y rhestr y gwelwch ar ryngwyneb Ffeindio Llyfr. Ewch at www.webfeat.org er mwyn cael mwy o wybodaeth am WebFeat® a?r dechnoleg y tu ôl i?r gwasanaeth.

Benthyg eitem

A oes angen i mi fod yn aelod o lyfrgell er mwyn benthyg eitem?

  • Oes. Bydd angen i chi ddarparu manylion eich aelodaeth llyfrgell er mwyn benthyg eitem. Gallwch gofrestru yma os nad ydych yn aelod o lyfrgell yng Nghymru eisoes. Os ydych chi'n iau nag 16 mlwydd oed, yna gofynnwch i riant neu warcheidwad osod y cais am yr eitem yr hoffech ei fenthyg ar eich rhan.

A yw?r holl eitemau ar gael i mi eu benthyg?

  • Bydd eich llyfrgell gwneud pob ymdrech i ddarparu'r eitemau rydych yn gwneud cais amdanynt, ond mae?n bosibl na fydd rhai eitemau ar gael i?w benthyg adref. Cewch wybod beth yw?r ffordd orau o gael mynediad at eitemau felly yn yr achosion hyn.

Sut a phryd y ca? i?r eitem yr hoffwn ei fenthyg?

  • Mae gwneud cais am eitem trwy'r gwasanaeth Ffeindio Llyfr yn union yr un peth â gwneud cais eich hun yn eich llyfrgell gyhoeddus. Ar ôl i chi osod cais, bydd eich llyfrgell yn cysylltu â chi o fewn un wythnos waith gyda mwy o wybodaeth. Bydd yr eitem ar gael i chi ei gasglu o?ch llyfrgell cyn gynted â phosibl, ond dylech nodi y gall fod yn amhosibl dod o hyd i rai eitemau. Cewch wybod beth yw?r ffordd orau o gael mynediad at yr eitemau hynny yn yr achosion hyn.

A fydd rhaid i mi dalu am fenthyg eitem?