Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Chwiliwch. Bopeth.

Mae newidiadau yn dod i wasanaeth Ffeindio Llyfr yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd Ffeindio Llyfr yn defnyddio meddalwedd newydd a fydd yn chwilio'r catalogau yn gyflymach ac yn well.
Byddwch yn sylwi ar rai newidiadau, er enghraifft i archebu llyfr bydd angen i chi naill ai teipio neu copïo a phastio rhai manylion i mewn i'r ffurflen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â llyfrgellcymruorg@llgc.org.uk


Mae gwasanaeth beta Ffeindio Llyfr yn casglu'r holl gatalogau sydd ar gael yn gyhoeddus gan lyfrgelloedd Cymru at ei gilydd i'w chwilio o un lle. Gallwch ddewis chwilio am bob math o ddeunyddiau mewn unrhyw lyfrgell Cyhoeddus, llyfrgell Addysg Uwch neu lyfrgell Addysg Bellach mewn rhanbarth arbennig trwy deipio term yn y bocs chwilio isod. 

Defnyddiwch ein Chwiliad Manwl i chwilio trwy lyfrgelloedd penodol. 

Chwiliwch Gatalog eich Awdurdod Lleol drwy glicio ar un o'r adnoddau ar y rhestr.

 

Benthyg Eitem

Gall aelodau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru osod cais am eitem drwy'r gwasanaeth Ffeindio Llyfr yn yr un ffordd â gosod cais wyneb-yn-wyneb mewn llyfrgell cyhoeddus. Chwiliwch trwy Ffeindio Llyfr am yr eitem yr hoffech fenthyg, yna cliciwch ar y botwm ?Benthyca Eitem.? Darllenwch mwy am delerau ac amodau y gwasanaeth.  

Beth yw 'beta'?

Mae Ffeindio Llyfr yn wasanaeth 'beta' ar hyn o bryd. Er ein bod am i chi ddefnyddio'r gwasanaeth a gosod ceisiadau am eitemau, mae hyn yn golygu ei fod yn bosibl nad oes rhai rhannau ohonno wedi eu gorffen yn llawn eto, ac yr ychwanegir darnau newydd ato gydag amser.

Rydym wedi creu tudalen o Gwestiynau Cyffredin er mwyn eich cynorthwyo wrth ddefnyddio Ffeindio Llyfr. Byddwn hefyd yn hoffi petaech yn rhoi'ch barn ar y gwasanaeth a rhoi gwybod i ni am unrhyw broblemau gan ddefnyddio'n Ffurflen Gyswllt.

Methu dod o hyd i'r wybodaeth rydych yn chwilio? Beth am ofyn eich cwestiwn i lyfrgellydd! Efallai gallwn ni ateb eich cwestiwn chi neu eich cyfeirio at ffynonellau a fydd yn eich helpu.