Adnoddau Ar-lein am Ddim
Dod o hyd i lyfr
Oes gennych chi gwestiwn anodd?
Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi.
Chwilio am erthygl papur newydd?
Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.
E-lyfrau Addysgol
Cliffs Notes
Mae'r casgliad yn cynnwys yr holl deitlau yn y gyfres llenyddiaeth Cliffs Notes. Mae canllawiau astudio Cliffs Notes wedi cael eu hysgrifennu gan athrawon a darlithwyr go iawn, gyda'r nod o helpu myfyrwyr i gael canlyniadau uwch yn eu harholiadau.
Yn ogystal â'r canllawiau astudio, mae'r wefan hefyd yn cynnwys cannoedd o erthyglau a chwestiynau ymarfer ar Ysgrifennu, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Ieithoedd Tramor, Hanes a Chyfrifeg.
Ewch i'r wefan i weld y casgliad llawn
Bookboon
Mae?r adran myfyrwyr ar wefan Bookboon yn cynnig ystod eang o werslyfrau ar-lein am ddim i'w lawrlwytho. Mae'r gwerslyfrau yn cael eu hysgrifennu gan athrawon uchel eu parch o brifysgolion gorau?r byd ac yn ymdrin â phynciau fel economeg, ystadegau, TG, peirianneg a gwyddoniaeth naturiol. Nid yw cofrestru yn angenrheidiol, ond mae angen i chi rhoi enw eich prifysgol, eich cwrs a cyfeiriad e-bost i lawrlwytho?r gwerslyfrau.
Ewch i'r wefan i weld y casgliad llawn

English
| Cysylltwch â ni |
Mewngofnodi Staff