Dod o hyd i'ch llyfrgell lleol

Oes gennych chi gwestiwn anodd?

Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi. Gofynnwch i Lyfrgellydd

Chwilio am erthygl papur newydd?

Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.

Dod o hyd i erthygl

Cronfa ddata ar-lein sy?n darparu gwybodaeth am y canlynol yw (ESO):

  • sefydliadau a gweithgareddau?r Undeb Ewropeaidd
  • gwleddydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop
  • materion o bwys i ddinasyddion, ymchwilwyr a budd-ddeiliaid Ewrop

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth o?r Undeb Ewropeaidd, o seiadau doethion a sefydliadau ymchwil, o lyfrau ac erthyglau mewn cylchgronnau a phapurau newydd, o lywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol eraill, a llawer mwy mewn un chwiliad trwy ESO. Mae yna gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth unigryw ar Sefydliadau a Pholisïau?r Undeb Ewropeaidd ac ar wledydd Ewrop yno hefyd, wedi eu hysgrifennu gan Dîm Golygyddol ESO. Gall ESO fod o gymorth i chi os oes gofyn mawr gennych am wybodaeth ynglŷn ag Ewrop neu os mai ymholiadau achlysurol yn unig sydd gennych: gellir ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i wybodaeth i?r aelodau o?r cyhoedd neu i bobl broffesiynol.

Gallwch gael mynediad at ESO os ydych wedi cofrestru gyda llyfrgell.cymru.org, hefyd – piciwch draw at y dudalen fewngofnodi. Neu, cofrestrwch ar y dudalen Cofrestru os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.