Adnoddau Ar-lein am Ddim
Dod o hyd i lyfr
Oes gennych chi gwestiwn anodd?
Mae AskCymru yn wasanaeth ar-lein am ddim sy'n eich galluogi i ofyn i llyfrgellydd i ddod o hyd i'r ateb i chi.
Chwilio am erthygl papur newydd?
Mae Newsbank yn gadael i chi chwilio papurau newydd lleol a chenedlaethol am erthyglau o'r gorffennol a'r presennol.
Adnoddau Ar-lein Am Ddim
Os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn aelod o lyfrgell cyhoeddus yng Nghymru, gallwch gael mynediad am ddim at ystod eang o ddeunyddiau cyfeiriol ar-lein yma ar llyfrgellcymru.org.
Sut?
Mae'n syml: cofrestrwch gan ddefnyddio manylion eich aelodaeth llyfrgell ac fe wnawn ni'r gweddill! Bydd gennych fynediad at bob math o adnoddau cyfeiriol o gysur eich cartref mewn dim o dro. Nodwch fod mynediad i Find My Past dim ond ar gael yn eich llyfrgell, archifdy neu amgueddfa leol.
Oes yna adnoddau eraill y gallaf eu defnyddio?
Yn ychwanegol at yr adnoddau uchod, mae eich llyfrgell leol yn cynnig ystod eang o adnoddau ar-lein megis Find My Past, Grove Art a Grove Music. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen llyfrgelloedd eich awdurdod lleol:

English
| Cysylltwch â ni |
Mewngofnodi Staff
